top of page

EIN STORI

Symudodd Nigel a Mary Edkins i Giliau Aeron bron i 50 mlynedd yn ôl i reoli stad fferm gyda byngalos gwyliau. Croesawodd 2 fab, Gordon a Ben, tra'n gweithio ac yn byw ar y safle. Yna cymerwyd yr her o redeg Gwesty Tyglyn rhwng 2001 a 2006.

 

Yn 2006, fe werthon nhw'r gwesty a symud i Fferm Coed i ganolbwyntio ar ffermio. Roedd her ffermio yn golygu bod yn rhaid i Ben, ynghyd â’i rieni a’i wraig Meryl, arallgyfeirio i gynhyrchu wyau buarth yn 2015. Ac felly fe ganed y busnes 'Wyau Edkins'. Yn 2019 fe ennillon ni y wobr ‘Cynhyrchydd y Flwyddyn’ Wyau Maes Prydain sy’n dangos ein hymrwymiad i gyrraedd y safonnau uchaf wrth ofalu am ein ieir.

 

Mae ein hwyau maes wedi cael derbyniad da yn yr ardal gan bobl leol, ymwelwyr a busnesau. Rydym yn falch o gyflenwi nifer o fwytai, caffis a siopau lleol yng Ngheredigion gyda'n wyau maes ffres.

 

Yn 2023, aethom ati i sefydlu peiriant wyau hunanwasanaeth yn Aberystwyth. Yn dilyn llwyddiant y peiriant hwn, aethom ymlaen i sefydlu siop hunanwasanaeth ar ein fferm, gyda chymorth Grant Cynnal y Cardi. Agorwyd y siop hon ym mis Rhagfyr 2024 lle gallem nid yn unig werthu ein wyau buarth ffres, ond hefyd werthu cynnyrch lleol arall, fel mêl, cig a siytni. Mae rhedeg y fusnes yn ymdrech tîm teuluol.

Vending machine.jpg

Cyfeiriad

Coed Farm,

Cilcennin,

Lampeter,

Ceredigion

SA48 8DH

Manylion Cyswllt

Ebost: coedfarm686@gmail.com

​​

Ffôn: 07813315670

neu 07896772620

  • Black Facebook Icon
  • Black Instagram Icon
Wyau Edkins Eggs logo
bottom of page